Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

 

Chwefror 2015

 


Adroddiad ar yr amserlen ar gyfer ystyried Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru)

1.    Ar 23 Chwefror 2015, cafodd Bil Llywodraeth, ‘Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru)’, ei gyflwyno yn y Cynulliad.  

2.    Ar 27 Ionawr 2015, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.9, i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, er mwyn iddo ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.

3.    Ar 3 Chwefror 2015, yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, trefnodd y Pwyllgor Busnes amserlen i’r Pwyllgor ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chytunodd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 3 Gorffennaf 2015.

4.    Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 16 Hydref 2015, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.